Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad gwerthfawr o 120,000 o negyddion y ffotograffydd Geoff Charles. Mae ei ffotograffau’n amhrisiadwy wrth iddynt groniclo amrywiaeth o agweddau ar fywyd yng Nghymru a’r Gororau. Cofnodir llawer mwy na digwyddiadau a phersonoliaethau gan ei waith; cofnodir hefyd bywyd pob dydd pobl cyffredin a datgelir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu mewn nifer o’i ffotograffau.
Yn 2000 cychwynnodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar raglen uchelgeisiol i ddigideiddio Casgliad Geoff Charles. Mae 6000 o luniau o gyfnod y rhyfel a dros 15,000 o ddelweddau o Gymru yn ystod y cyfnod wedi'r rhyfel hyd at yr 1960au ar gael ar gatalog y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys ei gofnod manwl o gymuned Capel Celyn, yn awr ar goll am byth o dan ddŵr Llyn Tryweryn a hefyd ei goffâd diwyd i wyliau Eisteddfodau'r Urdd a gwyliau’r Eisteddfod Genedlaethol yn y cyfnod.
Bydd yr archif ddigidol hon yn parhau i dyfu fel y bydd mwy a mwy o negyddion yn cael eu digideiddio a’u catalogio ar gyfer cynulleidfa fyd eang. Hyd yn oed yn yr oes ddigidol, mae ei gasgliad yn parhau i fod yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer awduron, haneswyr, myfyrwyr a phobl Cymru a thu hwnt.
Ar y wefan hon bydd y ffotograffau a dynnwyd rhwng 1939 ac 1959 yn cael eu dehongli a'u harddangos. Arni, fe geir cyflwyniadau yn ymwneud â themâu penodol ynghyd â detholiad o ddelweddau sy’n ategu’r cyflwyniadau. Ar ddiwedd pob thema hefyd, ceir dolenni yn arwain at gofnodion penodol yng nghasgliad Geoff Charles ar gatalog y Llyfrgell sy'n ymwneud â'r thema. Bydd y lluniau a’r themâu yn darlunio bywyd dyddiol yng Nghymru a’r Gororau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’r cyfnod wedi’r rhyfel hyd at 1959.
Byddant yn dangos yr effaith a gafodd y Rhyfel ar fywyd pobl gyffredin a sgil effeithiau’r rhyfel am nifer o flynyddoedd wedyn. Byddant hefyd yn rhoi cipolwg ar y datblygiadau a fu yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel pryd yr eginodd gymdeithas fodern.
Bydd y wefan yn adnodd gwerthfawr ar gyfer ystod eang o bobl gan gynnwys y rheiny sy’n ymddiddori mewn hanes Cymru a’r Gororau wedi’r Ail Ryfel Byd, neu yn athrawon a disgyblion a fydd yn gallu ei ddefnyddio fel adnodd addysgol.