
Cafodd myfyrwyr Safon Uwch o bob rhan o Gymru gyfle i ddysgu mwy am y cyfnod rhwng 1939 ac 1959 mewn cynadleddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y cyflwyniadau yn cynnwys hanesion byw teuluoedd gafodd eu heffeithio gan yr holocost, darlithoedd gan haneswyr blaenllaw, a chyflwyniadau gan arbenigwyr hanes Safon Uwch.
Mae cynllun Maes y gad i Les y Wlad hefyd wedi cynhyrchu adnoddau am ddim i ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys pecynnau y gellir eu llwytho o'r wefan hon; ymarferion rhyngweithiol sy’n edrych ar fywydau plant yn ystod y rhyfel, bywydau menywod yn ystod y rhyfel, a’r Ffrynt Cartref a Dogni; llyfr o ffotograffau Geoff Charles gyda thestun a dehongliad; a DVD sy’n cynnwys straeon digidol.

Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru: Mae'r llyfr hwn yn cynnwys ffotograffau o bobl a digwyddiadau mewn trefi bychan ac ardaloedd gwledig, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ceir yma bortread ffotograffig unigryw o sut wnaeth pobl mewn rhannau o Gymru ymateb yn ystod y cyfnod hwn o newid a gwrthdaro, ynghyd â thestun a dehongliad gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llwytho copi o'r llyfr (pdf)

Maes y Gad i Les y Wlad 1939-1959: Mae 40 straeon digidol gafodd eu cynhyrchu fel rhan o'r prosiect wedi eu rhyddhau ar DVD. Maent yn rhannu'n bedair thema, sef Hamdden, Gwaith, Cymdeithas, a Gwrthdaro.
Mae'r llyfr a'r DVD wedi eu hanelu'n bennaf at ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4, ac anfonwyd dau gopi yn rhad ac am ddim i bennaeth hanes pob ysgol uwchradd yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ebostiwch addysg@llgc.org.uk, neu ffoniwch ni ar 01970 632528 / 632913.