Alf Willis
Cefais fy ngeni ym 1921 yn Nhreganna, Caerdydd.
Pan oeddwn yn 15 oed aeth fy nhad â fi o'r ysgol i wneud prentisiaeth yn Fleet Street. Pan oeddwn yn Fleet Street, dechreuodd y Rhyfel, felly ceisiais ymuno â'r Llu Awyr.
Anfonon nhw fi i Gaerdydd i gael fy ardystio ac i sefyll yr arholiad. Oddi yno ces fy anfon i Halton, ysgol hyfforddiant technegol dda, fel ffitiwr. Gwnes i gwrs arbennig ar hydroleg.
Roedden ni fel teulu. Roedd gan bob awyren ei chriw ei hun a bydden nhw'n cadw gyda'i gilydd. Roedden nhw'n edrych ar ôl ei gilydd.
Ar ddiwedd y rhyfel fes ges i dair medal, medalau ymladd. Dyna i chi Seren yr Affrig, Medal 1939-43 a'r Fedal Fuddugoliaeth.
Ar ôl y rhyfel dychwelais i Gymru. Des i’n ôl at wraig a dau o blant. Ar y dechrau roedd yn wych. Yna roedd rhaid i fi fynd i weithio i ennill arian. Wnaeth hi fyth weithio. Doedd dim pwynt iddi weithio. Fi oedd yn gweithio. Fi oedd yn ennill yr arian.
Chi'n gweld, daeth rhai’n ôl ac roedden nhw wedi colli'u gwragedd, wedi colli'u brodyr, wedi colli'u chwiorydd. Dydw i ddim yn gwybod sut effeithiodd e arnyn nhw. Ond ro’n i'n ffodus; roedd ’da fi dri brawd yn y gwasanaethau.
Roedd rhaid i fi roi fy enw ar gofrestr i gael tŷ. Roedd ’da fi ddau o blant bryd hynny ac fe ddwedon nhw na fasech chi’n cael tŷ nes oedd ’da chi dri o blant. Ar ôl y rhyfel roedd llawer o bobl wedi dychwelyd a doedd ’da nhw’n unlle. Roedden nhw'n byw mewn stafelloedd gyda'u mamau-yng-nghyfraith fel oeddwn i, chi'n gwybod. Cyn gynted ag oedd gyda chi dri o blant, roedden nhw'n rhoi tŷ i chi. Ces i dŷ lan fan hyn.
Pan ddes i yma, meddyliais i “am dwll o le”! Sbwriel oedd y cyfan.
Rwyf wedi gwneud gwaith gwirfoddol yng Nghaerau ers dros 50 mlynedd. Cymuned fach oedden ni bryd hynny. Newydd ddechrau adeiladu Caerau oedden nhw. Fi oedd y pennaeth ieuenctid gwirfoddol cyntaf ym 1955. Helpais i godi arian i adeiladu'r ganolfan gymdeithasol. Roeddwn i'n arfer cynnal dosbarth cadw'n heini. Roedd merched a bechgyn ar wahân am ryw reswm. Roedd dawnsio. Roedd gyda ni fand jazz. Roedd ’da ni bopeth, chi'n gwybod.
Roedd hi fel cymuned bryd hynny. Chi'n gwybod, byddai pawb yn helpu'i gilydd. Roedd pawb yn edrych ar ôl ei gilydd. Amser Nadolig, bydden ni'n trefnu parêd Siôn Corn o gwmpas y stâd i'r plant. Bydden ni'n gwneud parseli a'u rhoi i'r hen bobl. Gwaith er lles y gymuned.
Dwi dal yn gwneud llawer ohono nawr. Fi yw trysorydd y papur newydd ‘Ely Grapevine’. Papur newydd ry'n ni'n ei ddosbarthu bob chwarter.
Rydych chi’n cael allan o fywyd yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn iddo.