Dennis Kalahar
Dennis Kalahar ydw i. Rwy'n 74 oed. Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghasnewydd. Roeddwn yn byw gyda mam, dwy chwaer iau, dwy chwaer hŷn a dau frawd hŷn. Mae gen i ddau frawd hŷn a wasanaethodd yn y rhyfel. Gwasanaethodd Daniel yn y Llynges, ac roedd Donald yn gynnwr yn y fagnelaeth. Dim ond 18 oed oedd Donald pan ymunodd e.
Pan oedd fy mrodyr i ffwrdd, roedd fy nhad yn gweithio yn nociau Casnewydd. Roedd swyddi'r docwyr yn bwysig iawn gan eu bod yn llwytho llongau gyda thanciau, gynnau, offer a bwyd ar gyfer y milwyr tramor. Ei waith oedd dadlwytho a llwytho llongau. Y rhan fwyaf o'r llwythi yn ystod y rhyfel oedd tanciau, bwyd, ffrwydron ar gyfer y milwyr. Ni fyddai rhai o'r cychod yn dod yn ôl. Collwyd rhai yn y sianel ar y ffordd allan. Roedd fy nhad yn aelod o Barti Ymateb y Fyddin. Roedd yn gweithio i rota pan nad oedd yn gweithio yn y dociau. Roeddwn i'n arfer eu gwylio'n ymarfer a byddai dau yn gorwedd gyda phiben ddŵr yn eu dwylo ac yn bellach i lawr y ffordd byddai dyn gyda bwced o dywod a bwced o ddŵr gyda phwmp y tu mewn iddi, a byddai'n pwmpio'r dŵr o gwmpas y biben er mwyn i rif un neu rif dau, oedd yn gorwedd, ddiffodd y tân, dim ond clwt olew ar dân, jyst i ymarfer. Pan fyddai’n mynd i'r gwaith, doedden ni ddim yn gwybod pryd y byddai'n cyrraedd adre.
Roedd llawer o randiroedd gan y teuluoedd yn ein stryd. Roedden ni'n palu dros fuddugoliaeth. Roedd ein gardd gefn yn llawn ieir, a fyddai'n bwydo'n cymdogion. Bydden nhw yn eu tro yn helpu i fwydo'r ieir gyda chrwyn llysiau o'u rhandiroedd. Roedd pawb yn helpu'i gilydd.
Pan fyddai’r seiren cyrch awyr yn canu byddai'r holl deulu yn rhedeg i'r lloches yng ngwaelod yr ardd. Rwy'n cofio gwylio'r ceffyl a throl yn dod â'r llochesau hyn i'n stryd ni a'u rhoi yn y gerddi. Rwyf hefyd yn cofio dogni yn yr ysgol. Fe wnaethon nhw fesur ein traed, oherwydd po fwyaf oedd maint eich traed, po fwyaf o docynnau dogni yr oeddech yn eu cael. Roedd bwyd o hyd yn brin. Roedd gan bopeth oedd ei angen arnoch werth, ac yn werth nifer gwahanol o docynnau dogni. Os oeddech chi eisiau rhywbeth a oedd yn werth llawer o docynnau yna roedd rhaid byw heb rywbeth arall.
Roedd golygfa dda allan o'n lloches ni. Weithiau, pan oeddem ni yno, byddai ’nhad yn agor y drws ychydig a gallem weld y fflachiadau'n goleuo'r awyr uwch Môr Hafren. Byddem ni'n gwasgu i mewn i'r lloches noson ar ôl noson.
Rwy’n cofio corff Donald yn dod adre, cafodd osgordd filwrol lawn, a Jac yr Undeb yn gorchuddio'i arch. Ym 1954 ymunais â'r fyddin yn 18 oed. Hyfforddais am 6 mis yn Aberhonddu. Yna hwyliais i Brunswick lle treuliais 18 mis yn gwasanaethu gyda Chyffinwyr De Cymru yn Brunswick, yn yr Almaen. Roedd gen i wahanol swyddi pan oeddwn yn y fyddin, yn gofalu am filwyr oedd yn dod i mewn gyda gwahanol grafiadau a chleisiau ac esgyrn wedi’u torri. Os oedd yr anaf yn ddifrifol iawn byddem ni'n eu hanfon mewn ambiwlans i Hannover, i'r prif ysbyty. Almaenwr oedd y gyrrwr; roedd yn rhaid iddo wneud beth roeddem ni'n dweud wrtho, roedd yn ufudd iawn. Roedd yn weithiwr da iawn i ni, mewn gwirionedd.
Awdur: Dennis Kalahar
Teitl: Bywyd y Teulu yng Nghasnewydd
Hyd: 04:13
Crëwyd gan: Ysgol Gyfun Gwynllyw