Roedd y blynyddoedd rhwng 1939 ac 1959 yn rhai o newidiadau mawr ym mywydau pobl Cymru a rhannau eraill o’r byd. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd newidiadau rhyngwladol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol fyddai’n dylanwadu’n drwm ar fywydau pobl am ddegawdau.
Yr Ail Ryfel Byd oedd y gwrthdaro mwyaf gwaedlyd mewn hanes, gwrthdaro a effeithiodd ar bobl o bob cyfandir. Roedd yn rhyfel byd eang nas gwelwyd mo’i fath cynt nac wedyn. Erbyn diwedd y brwydro, credir bod tua 70 miliwn o bobl wedi’u lladd, gyda’r rhan fwyaf o’r rheiny’n bobl gyffredin oedd ddim yn rhan o’r brwydro.
Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd y Rhyfel Oer a daeth llawer o wledydd y byd yn rhan o gynghreiriau pwerus. Ar un ochr roedd y bloc comiwnyddol yn cael ei arwain gan yr Undeb Sofietaidd, ac ar yr ochr arall y gwledydd cyfalafol yn cael eu harwain gan Unol Daleithiau America. Roedd rôl Tsieina hefyd yn allweddol yn y Rhyfel Oer, ac ar gyfnodau gwahanol bu’n gyfaill i’r Undeb Sofietaidd, yn closio at Unol Daleithiau America, neu’n torri’i chwys ei hun gan anwybyddu gwledydd eraill yn llwyr. Dylanwadodd y Rhyfel Oer ar wledydd ar draws y byd, o Ewrop i Asia, ac o’r Dwyrain Canol i America Ladin.
Ymladdwyd y Rhyfel Oer mewn nifer o ffyrdd gwahanol, oedd yn amrywio o gefnogi gwahanol wledydd, neu grwpiau o fewn gwledydd, mewn rhyfeloedd, i wledydd yn herio’i gilydd dros y bwrdd gwyddbwyll. Crëwyd cynghreiriau milwrol, roedd gwledydd yn ysbïo ar ei gilydd, ymladdwyd rhyfel seicolegol ac ideolegol, cafwyd ras arfau, ras i’r gofod a brwydr am oruchafiaeth dechnolegol.
Roedd yr Ail Ryfel Byd a’r blynyddoedd wedi hynny’n gyfnod o newid cymdeithasol mawr. Yn ystod y rhyfel, cyflwynwyd mesurau diogelwch a dogni, ac er i ddogni barhau am bron i ddegawd wedi’r rhyfel, datblygodd y diwylliant prynu yn ystod yr 1950au. Agorodd nifer o siopau mawr a chyda’r cynnydd mewn hurbrynu, cynyddu hefyd wnaeth y nifer o bobl oedd yn perchen cyfleusterau fel y sugnwr llwch, teledu, radio, peiriant golchi ac ati, am y tro cyntaf.
Yn ystod y 50au cafwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o bobl oedd yn gwylio ac yn berchen ar deledu, a thrwy fanteisio ar lwyddiant y sinema yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth ffilmiau Hollywood a diwylliant torfol Unol Daleithiau America yn fwy cyfarwydd a phoblogaidd ym Mhrydain yn y cyfnod wedi hynny.
Newidiodd bywydau llawer iawn o fenywod yn gyfan gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd mai dyma'r tro cyntaf i lawer ohonyn nhw adael y cartref i weithio. Erbyn yr 1950au roedd yn llawer haws i fenywod gael eu derbyn yn y lle gwaith, ond roedd disgwyl o hyd iddyn nhw briodi a chael plant yn hytrach na datblygu eu gyrfaoedd.
Roedd y blynyddoedd rhwng 1939 ac 1959 yn rhai o newid gwleidyddol mawr hefyd. Llywodraeth Genedlaethol fu’n rheoli Prydain rhwng 1931 a diwedd y ddegawd, ond yn 1940 daeth clymblaid dan arweiniad Winston Churchill i rym i arwain Prydain drwy’r Rhyfel.
Wedi’r rhyfel daeth y Blaid Lafur i arwain llywodraeth fwyafrifol am y tro cyntaf yn ei hanes, a chafwyd cyfnod o newid enfawr wrth i Lafur wladoli rhai o brif ddiwydiannau Prydain. Yn y cyfnod hwn newidiodd perthynas yr unigolyn â’r wladwriaeth yn sylfaenol wrth i Lywodraeth Lafur 1945 ymateb i Adroddiad Beveridge trwy gyflwyno Gwladwriaeth Les oedd yn cynnwys gofal iechyd, addysg, tai ac yswiriant gwladol.
Er i’r Blaid Geidwadol ddod i rym yn 1951 a rheoli Prydain hyd diwedd y ddegawd a thu hwnt, ni chafwyd rhaglen eang o breifateiddio diwydiannau oedd wedi’u gwladoli ynghynt, nac unrhyw ymdrech wirioneddol i ddatgymalu’r Wladwriaeth Les.