Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Themâu / Gwaith / Yr Home Guard

Yr Home Guard

Darllenwch y Stori


Aeron Davies

O’dd ’na gangen o ‘Home Guard’ i gael ymhob pentref, trwy’r sir a thrwy’r wlad i gyd, a wedyn o’n i’n cwrdd â’n gilydd ar adegau: un yn amddiffyn ei ardal a’r llall yn bwrw mewn.  O’dd ’na dipyn o sbri gyda ni.  Wedyn pan fydden ni’n cwrdd wedyn, fel ‘batallion’ os gwedon nhw, o’dd pob pentref yn Sir Aberteifi yn cwrdd â’i gilydd ar y comin yn Llambed.  Yn un dyrfa fawr wedyn am un dydd Sul i aildrefnu beth o’n i’n dysgu ambwti’r gwn.  ‘First Aid’, o’dd hwnnw’n beth pwysig.  O’dd y cyfan yn cael ei glymu mewn.  A o’dd e o ddiddordeb a o’dd e’n beth difrifol mewn ffordd.  Pe bai’r gelyn wedi dod mewn, digon tebyg fydde fe’n help mawr.  Waeth lawr yn de Lloegr, ro’n nhw’n iwso’r Home Guard i saethu’r ‘planes’ lawr. O’n nhw’n cael eu dysgu ar y drylliau o’dd yn saethu planes y gelyn lawr.

Ond cyn i’r Home Guard ddod i fri ro’dd ’na LDV, ‘Local Defence Volunteers’, ac o’n i’n cael ein traino gyda post pigau, rhaca neu unrhyw beth o’dd yn cynrychioli gwn.  Ac er mwyn cael arfer ag e, i iwso fe’n iawn a’r ffordd i handlo fe.  Wedyn da’th yr Home Guard.  O’n i’n cael drylliau iawn i drafod.

Daeth merched wedyn, beth o’n nhw’n galw’r ‘morse code’. ’Na’u gwaith nhw o’dd danfon llythyron neu negeseuon o un ardal i’r llall ynglŷn â beth o’dd mla’n mewn morse code.  Wedyn o’dd y bechgyn yn cwrdd unwaith yr wythnos yn y neuadd.  Ar ôl gorffen gwaith tua 8 o’r gloch y nos, i ddysgu ffordd i amddiffyn yr ardal.  A dyna fwriad yr Home Guard o’dd: pe bai rhwbeth yn digwydd fod yr Home Guard yn gw’bod am bob llwybr, am bob rhan o fap o’dd yn dangos yr ardal.  O’n i’n gallu cael ‘map reading’, o’n nhw’n galw fe’n Saesneg.

Wel, nawr o’n ni’n gorfod mynd mas wedyn tua 2 o’r gloch y bore.  Unrhyw un o’dd yn dod ar hyd yr heol fawr â char amser ’na, o’dd e’n cael ei stopio.  Mynd mas wedyn yn ddau, un i stopio’r car a’r llall i’w gyfro fe, yndyfe, i amddiffyn e se rwbeth yn digwydd.  Wel, wi’n gw’bod am un nosweth, o’dd y stopwr car lawr yn y dyffryn ’ma a pwy o’dd yndo fe ond ‘Lady of the Manor’, wedwn ni ontife, yn dod ’nôl o ryw bwyllgorau hwyr rhywle.  A dyma’r bachgen, yr Home Guard, yn gofyn iddi am ei ‘identity card’, a mynte hi:
“Good God,” Johnny o’dd enw’r bachgen. “What are you doing here on your own?”
“Stopping the Germans, madam.”
“All on your own?”
“No, no, no, Twm bach’s behind the hedge.”

A nawr dyna’r digrifwch, ontife, bod Twm Bach yn mynd i stopo’r Germans.

Delweddau Eraill



Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

Gweld ein datganiad hawliau.

Manylion


Awdur: Aeron Davies

Teitl: Yr Home Guard

Hyd: 03:34

Crëwyd gan: Cwmni Theatr Cadw Sŵn