David Charles Jones
Fy enw i yw David Charles Jones. Cefais i fy ngeni yn Aberhonddu ym 1929. Oddi yno, pan oeddwn yn 18 oed, ymunais â'r fyddin, gwasanaeth gwladol am dair blynedd. Yna des i’n ôl i Gaerwrangon ar y rheilffordd a thra oeddwn i yno fe gwrddais â merch. Roedd hi'n byw ym Mhenarth ac roedd ganddi swydd dda yn Swyddfa'r Post. Wel fe ddwedodd hi: "Dwi ddim wir eisiau dod lan i fan'na."
Ac yna ar un achlysur fe es i Benarth am benwythnos ac fe bwyntiodd at blismon eithaf tal ar ochr arall y stryd. Ac fe ddwedodd hi: "Rwy'n meddwl y dylet ti siarad ag e. Mae e wedi bod yn siarad â fi." Ac fe edrychais arno. Roedd ychydig yn dalach na fi. Ac fe ddwedais wrth fy narpar wraig: "Wel, os yw e dy eisiau di, fe gaiff e di." Dwedodd hi, "Paid â bod yn dwp. Dos draw a siarad gydag e." Ac mi siaradais ag e, ac roedd ei amgylchiadau'n debyg i fy rhai i ac fe benderfynodd e adael y rheilffordd ac ymuno â'r heddlu. Fe wnes i'r un peth. Rwy'n meddwl roedd y cyflog ychydig yn well na'r arfer ond roedd pethau eraill hefyd fel tŷ am ddim heb rent.
Un tro, roedd yna gwrcath anferth. Daeth sarjant draw ac fe ddwedodd: "Mae'r gwrcath yna ar dy rownd di. Beth wnei di amdano?" "Wel," dwedais, "Sortia i fe nawr, Sarj." Ac roedd fy 'handcuffs' yn fy mhoced dde ac fe dynnais i nhw allan. Taflais yr handcuffs ac aethant ar draws y ffordd, zoonk zoonk zoonk zoonk, ar draws y ffordd. Methu'r gwrcath, taro'r pafin ac yn syth drwy ffenest siop. Felly edrychais drwy'r ffenest a meddyliais, wel, allaf i ddim cael fy handcuffs allan ac roedden nhw reit yng nghefn y siop. Ond yna cofiais fod y goleuadau bryd hynny yn oleuadau nwy, ac roedd gennym ddyn yn mynd o gwmpas gyda'i bolyn yn cynnau'r goleuadau. Roeddwn yn gwybod lle'r oedd yn cadw'i bolyn. Fe es i nôl y polyn a llwyddais i fachu fy handcuffs allan o'r ffenest. Penderfynais ddweud fod lori fawr wedi mynd heibio, a bod carreg wedi cwympo oddi arni a thorri'r ffenest. A daeth neb i wybod am y peth.
Symudais o Benarth i fynd i orsaf yng Nghroeserw, pentref bach. Roedd yna dri o bobl a oedd yn rhedeg y pentref hwnnw. Y tri P' yn Saesneg oedd y rhain: policeman, priest a’r publican. Daeth yr offeiriad Catholig ataf yn fuan ar ôl i mi gyrraedd a dweud: "Os wyt ti'n cael unrhyw drafferth gydag aelod o fy eglwys, cyn i ti eu gwysio nhw i fynd o flaen eu gwell, wnei di siarad gyda fi yn gyntaf?" Nawr roedd offeiriad Catholig i gyd yn ddynion mawr ac roeddent i gyd wedi cael eu dysgu sut i baffio a bydden nhw'n rhoi'r menig paffio i fachgen drygionus a rhoi clatsien iddo rownd y glust. Dyna ni. Dim rhagor o drafferth.
Roeddwn i'n cael fy mharchu. Rydw i nawr yn cael fy mharchu gan rai o'r bobl hŷn neu hyd yn oed rhai o'r plant ifancach a phan welaf i nhw nawr, a dwi wedi ymddeol ers 25 mlynedd, bydd pobl yn dweud "Helô, Mr Jones". Roedd parch y dyddiau hynny. Ond roeddwn wedi ymddeol cyn i unrhyw un boeri ar fy ngwisg neu galw enwau arna i. Fyddai hynny ddim wedi digwydd pan oeddwn i'n blismon oherwydd buaswn i wedi rhoi dyrnod iddyn nhw ac mae mor syml â hynny.