Doris Flook
Fy enw i yw Doris Flook ac rwy'n 92 mlwydd oed. Cefais fy ngeni ym 1917. Cefais fy ngeni yn Sunny Bank, Glynafon.
Rwy'n cofio ei bod hi’n brynhawn dydd Sul a’r dyn ifanc yma'n rhedeg lan y stryd. Dyma ni i gyd yn rhedeg at y drws. Roedd e'n gweiddi: mae rhyfel wedi’i gyhoeddi, mae’r Almaen wedi dechrau rhyfel. Felly roeddem ni i gyd wedi cynhyrfu, ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dyna oedd y dechrau.
Wel, rwy'n meddwl y cawson nhw eu rhoi nhw i bawb, roedd yn rhaid i bawb gael y cerdyn adnabod yna.
Roedd popeth yn cael ei ddogni bryd hynny, gan gynnwys menyn, siwgwr a dim ond tua thair owns cawson nhw, dwi'n meddwl, o siwgwr a chig, ac roedd popeth yn cael ei ddogni. Ac roeddem ni'n arfer cael, yn lle siwgr, roedden ni'n arfer cael sacarin.
Fy mam a fy mrawd; roedden ni'n byw yn y siop bysgod ar y pryd, y bwyty. Ei siop e oedd hi, chi'n gweld, ac roedden ni'n arfer helpu yno tan tua 1942-43, dwi'n meddwl. I mi, fe wnaethom fusnes da iawn yno oherwydd roedden ni, chi'n gwybod, ar agor tan yn hwyr yn y nos ac roedd y bechgyn yn arfer dod yno. Fe wnaethon ni fusnes da iawn yno, dwi ddim yn gwybod ai oherwydd y rhyfel, wn i ddim. O, mi roedd yn dda iawn bryd hynny, gwych.
1941 dwi'n meddwl oedd hi. Roedd fy ngŵr yn y fyddin ar y pryd ac roedd e mewn gwahanol lefydd, i lawr yn Sussex a gwahanol lefydd, ac yna yn y pen draw aethant mas i'r Dwyrain Canol. Roedd ganddo rif: 7937329. Roedd e mas yno tan ddiwedd y rhyfel, 1945.
Roedd e'n edrych, chi'n gwybod, roedd e'n edrych yn hŷn, ac wrth gwrs roedd ganddo groen golau a gwallt golau a, wel, roedd ganddo grychiadau ar ei wyneb a phopeth ac yn edrych yn llawer hŷn, ac mewn gwirionedd, wnes i ddim ei adnabod i ddechrau pan gerddodd i mewn. Ie, roeddwn i'n falch iawn pan ddaeth yn ôl, wedi cynhyrfu.