Llythyr oddi wrth Len o orsaf Llu Awyr Brenhinol yn Topcliffe, Swydd Efrog at ei frawd Vernon. Bu farw Len Trehearn o'r Rhyl ar 14 Ebrill 1942 pan syrthiodd yr awyren fomio Halifax yr oedd ynddi wrth gael ei phrofi ger Baldersby. Mae wedi ei gladdu ym mynwent tref Y Rhyl. Gwasanaethodd gyda Sgwadron 102 fel Adfyddinwr Gwirfoddol y Llu Awyr Brenhinol. Gwasanaethodd ei frawd Vernon hefyd gyda'r Llu Awyr Brenhinol a bu eu tad P.T. Trehearn yn gwasanaethu gyda'r Llu Awyr Brenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.