Ar ymrestriad, rhoddwyd Llyfr Byddin 64, y 'Soldier's Service and Pay Book' i bob milwr Prydeinig. Am weddill ei wasanaeth, y llyfryn 20 tudalen hwn oedd pasport y milwr. Yn y llyfr roedd Rhif y Fyddin, Adnabyddiaeth Bersonol, Cofnodion Hyfforddiant, hanes gwaith, data Meddygol, adnabyddiaeth Perthynas Agosaf a ffurflenni Ewyllys a Thestament Olaf. Roedd yn rhaid i'r llyfr fod ym meddiant y Milwr trwy gydol yr amser. Roedd methu â dangos y ddogfen hon pan ofynnai Swyddog neu AS am gael ei weld yn ôl y gyfraith yn dramgwydd cosbadwy. Roedd y ddogfen yn ofynnol hefyd i brofi adnabyddiaeth ar gyfer Parêd Talu. Ymunodd Jim Phillips â Chyffinwyr De Cymru ym 1939. Ar ôl i fwyafrif o gydfilwyr Jim golli eu bywydau yn Irac, ymunodd gweddill y Cyffinwyr ag adran o Gatrawd y Brenin ei Hun, i gymryd yr ynys Roegaidd fechan Leros. Ond daeth eu presenoldeb i'r amlwg a daliwyd y milwyr oedd yn dal yn fyw a'u trawsforio i'r Almaen fel carcharorion rhyfel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.