Cefn Ffurflen Ymrestru ar gyfer y Fyddin Reolaidd, yn dwyn y teitl Certified Copy of Attestation, 1939 [delwedd 2 o 2] Cyfeirnod yr eitem : cny01033
Disgrifiad
Cefn Ffurflen Ymrestru ar gyfer y Fyddin Reolaidd, yn dwyn y teitl 'Certified Copy of Attestation'. Mae'r ffruflen hon wedi ei llenwi gan James Phillips o Gyffinwyr De Cymru. Mae'n cofnodi gwahanol ddarnau o wybodaeth bersonol, megis cenedligrwydd, dyddiad a man geni, gwaith, statws briodasol a chofnod o wasanaeth blaenorol. Mae'r ffurflen wedi'i harwyddo gan y recriwt fel llw i'w gymryd ar weinyddiad. Ymunodd Jim Phillips â Chyffinwyr De Cymru ym 1939. Ar ôl i fwyafrif o gydfilwyr Jim golli eu bywydau yn Irac, ymunodd gweddill y Cyffinwyr ag adran o Gatrawd y Brenin ei Hun, i gymryd yr ynys Roegaidd fechan Leros. Ond daeth eu presenoldeb i'r amlwg a daliwyd y milwyr oedd yn dal yn fyw a'u trawsforio i'r Almaen fel carcharorion rhyfel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.