Llythyr o'r Fyddin at Mr Phillips yn rhoi gwybod iddo bod ei fab, Jim, yn Garcharor Rhyfel, 17 Chwefror 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny01037
Disgrifiad
Llythyr wedi ei gyfeirio at Mr Phillips, Abersychan, yn rhoi gwybod iddo bod ei fab Jim o Gatrawd Brenhinol y Brenin Ei Hun, yn garcharor rhyfel mewn gwersyll tramwy yn yr Almaen. Mae'n hysbysu Mr Phillips y gellir cyfeirio llythyrau trwy ddefnyddio'r slip sy wedi'i gysylltu hyd nes bydd cyfeiriad gwersyll parhaol ar gael. Arwyddwyd ar ran y Swyddog â gofal am Gofnodion. Ymunodd Jim Phillips â Chyffinwyr De Cymru ym 1939. Ar ôl i fwyafrif o gydfilwyr Jim golli eu bywydau yn Irac, ymunodd gweddill y Cyffinwyr ag adran o Gatrawd y Brenin ei Hun, i gymryd yr ynys Roegaidd fechan Leros. Ond daeth eu presenoldeb i'r amlwg a daliwyd y milwyr oedd yn dal yn fyw a'u trawsforio i'r Almaen fel carcharorion rhyfel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.