Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llythyr dychwelyd i'w famwlad at Jim Phillips, o Swyddfa Cofnodion y Gw~r Traed, 1945
Cyfeirnod yr eitem : cny01038

Disgrifiad

Ffurflen swyddfa 217 o Swyddfa Cofnodion y Gw~r Traed. Mae wedi ei gyfeirio at Jim Phillips a gafodd ei ddychwelyd yn ddiweddar i'w gartref yn Abersychan o wersyll Almaenig Carcharorion Rhyfel. Mae'r llythyr yn datgan bod Jim ar gennad absenoldeb hyd at 19 Gorffennaf ac y byddai'n cael ei hysbysu i fynd am archwiliad meddygol maes o law. Tra oedd ar gennad absenoldeb roedd Jim yn gysylltiedig ag uned oedd wedi ei lleoli yng Nghasnewydd. Ymunodd Jim Phillips â Chyffinwyr De Cymru ym 1939. Ar ôl i fwyafrif o gydfilwyr Jim golli eu bywydau yn Irac, ymunodd gweddill y Cyffinwyr ag adran o Gatrawd y Brenin ei Hun, i gymryd yr ynys Roegaidd fechan Leros. Ond daeth eu presenoldeb i'r amlwg a daliwyd y milwyr oedd yn dal yn fyw a'u trawsforio i'r Almaen fel carcharorion rhyfel.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.