Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Erthygl o'r Western Mail yn adrodd hanes Jim Phillips fel Carcharor Rhyfel o Gymru a helpodd Garcharor Rhyfel o America i ddianc, 1996
Cyfeirnod yr eitem : cny01040

Disgrifiad

Erthygl papur newydd yn adrodd hanes Jim Phillips, milwr Cymreig, a helpodd filwr Americanaidd ddianc o wersyll Carcharorion Rhyfel yn yr Almaen. Cynorthwyodd Jim yn y ddihangfa trwy gyfnewid manylion adnabod â'r Americanwr George Janos, gan adael i George symud i ran arall o'r gwersyll a dianc. Arhosodd Jim yn y gwersyll yn cymryd arno'i fod yn Americanwr hyd diwedd y rhyfel, pan wnaeth ei ffordd adref i Gymru. Aiff yr erthygl ymlaen i adrodd sut y bu i Jim, o Ddinbych-y-pysgod, ddechrau chwilio am gyfeiriad yr Americanwr a helpodd, er mwyn cysylltu ag ef. Yn dilyn yr erthygl llwyddodd Jim i ddod o hyd i George gyda chymorth yr awdurdodau Americanaidd, ond, gwaetha'r modd, bu farw George cyn iddynt fedru cyfarfod. Ymunodd Jim Phillips â Chyffinwyr De Cymru ym 1939. Ar ôl i fwyafrif o gydfilwyr Jim golli eu bywydau yn Irac, ymunodd gweddill y Cyffinwyr ag adran o Gatrawd y Brenin ei Hun, i gymryd yr ynys Roegaidd fechan Leros. Ond daeth eu presenoldeb i'r amlwg a daliwyd y milwyr oedd yn dal yn fyw a'u trawsforio i'r Almaen fel carcharorion rhyfel.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.