Ffotograff o awyren Liberator, yn hedfan cyflenwadau i filwyr y Cynghreiriaid yng Ngogledd yr Eidal, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny02109
Disgrifiad
Ymunodd Tommy Manuel ag adfyddin gwirfoddol y Llu Awyr Brenhinol ym 1941 yn 17 mlwydd oed - rhy ifanc i ymgofrestru i ymladd. Ni chafodd ei alw i'r fyddin wedyn hyd Chwefror 1943. Ar ôl hyfforddi mewn amryw o safleoedd, fe 'ymadawodd' fel saethwr awyr, ac fe'i hanfonwyd i'r Dwyrain Canol. Fe'i lleolwyd mewn amrywiaeth o fannau; ar un adeg ailsymudwyd i Awyrlu De Affrig, a hedfanodd ar genadaethau bomio a chyflenwi o ogledd yr Affrig i'r Eidal. Mae'n cofio'r oriau maith a dreuliwyd yn nhyred saethu'r awyren, yn rhewi gan oerfel ac yn ceisio cadw'n effro - er, pan oedd angen gweithredu, roedd yr hyfforddiant a gafodd yn peri iddo ymateb heb orfod meddwl.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.