Llythyr oddi wrth milwr oedd yn gwasanaethu yn Rhodesia, 20 Awst 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny02701
Disgrifiad
Llythyr a anfonwyd at Elizabeth o Rhodesia, Yr Affrig. Cafodd ei ysgrifennu ar ddalen 'Airgraph'. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o broblemau ynghlwm wrth anfon post at a derbyn post oddi wrth milwyr a oedd yn gwasanaethu tramor. Roedd llawer iawn o bost i ddelio ag ef, ac roedd cludiant rhyng-gyfandirol yn anodd. Datblygodd gwledydd y cynghreiriaid wasanaeth i leihau maint y post. Gelwid y fersiwn Brydeinig yn 'Airgraphs', a gelwid y fersiwn yn yr UD yn 'V-mail'. Rhoddwyd talennau printiedig i filwyr a oedd yn gwasanaethu ac i'w perthnasau, yn cynnwys bylchau ar gyfer cyfatebiaeth ac enwau a chyfeiriadau'r anfonydd a'r derbynnydd. Anfonwyd y ffurflenni at orsafoedd ffotograffeg arbennig Airgraph ble y byddent yn cael eu ffotograffio ar ffilm 16mm. Yna anfonwyd y ffilm ymlaen at gyfleuster tebyg ar yr un cyfandir â chyfeiriad y derbynnydd. Yno, caiff y lluniau eu prosesu a'u chwyddo, a'u printio ar ddalennau bach o bapur ffotograffig. Maint y ffurflenni gwreiddiol oedd 21cm gan 28cm, ac roedd y ffurflenni wedi'u prosesu'n mesur 10.5cm gan 13cm. Yna byddai'r rhain yn cael eu hanfon ymlaen. Gallai dynion a merched yn y gwasanaethau anfon eu Airgraphs am ddim, ond roedd yn rhaid i'r cyhoedd dalu cost y post arferol. Bu Elizabeth Richards yn byw gyda'i rhieni yn Nhryleg, Sir Fynwy, drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod yr haf, 1940, glaniodd bom yn eu gardd, gan achosi difrod i ffenestri a drysau'r t~, ond heb niweidio'r teulu.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.