Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Ffotograff yn dangos colofn 35 Cofeb Ryfel Dunkirk, Ffrainc 1980au
Cyfeirnod yr eitem : cny02763

Disgrifiad

Ffotograff yn dangos colofn 35 Cofeb Ryfel Dunkirk. Mae'n rhestru enwau'r Gwarchodlu Cymreig a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ymhlith yr enwau mae Richard (Dick) Curtis. Heddwas o Mancot yn Sir y Fflint ydoedd, a phan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ymunodd ag ail fataliwn y Gwarchodlu Cymreig. Lladdwyd Dick yn Dunkirk ar 24 Mai 1940, yn 23 oed. Ymunodd brawd Dick, Tom, cogydd, â bataliwn cyntaf y Ffiwsilwyr Cymreig, a cafodd ei ladd ar 27 Mai 1940, yn 24 oed. Anafwyd trydydd brawd, John, yn ddifrifol yn yr Iseldiroedd gan ffrwydryn ym 1944, ond fe oroesodd.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.