Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llun o Dennis Cockbill a'i griw, wedi ei dynnu yn ymyl awyren fomio Lancaster, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny02771

Disgrifiad

Dennis Cockbill a'i gydweithwyr wrth ymyl yr awyren fomio Lancaster oedd yn cael ei hedfan ganddynt. Roedd yn rhaid iddynt weithio mewn amgylchiadau cyfyng, yn enwedig y saethwyr awyr, oedd yn gorfod aros yn eu safle trwy gydol yr ehediad. 20,000 o droedfeddi i fyny gallai'r tymheredd yn y tyred ddisgyn i namyn deugain gradd yn ystod y nos. Dennis, ar y pen chwith, oedd y dyn radio, a chyda dau saethwr awyr, y peilot, awyr-beiriannydd, llywiwr ac anelwr bomiau/saethwr blaen yr oedd yn griw o saith i gyd. Hedefanodd Dennis Cockbill gyda Rheolaeth Awyrennau Bomio fel dyn radio gan gymryd rhan mewn llawer o ymosodiadau bomio dros Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod gwanwyn 1945, hedfanodd gydag Ymgyrch Manna, cennad cymorth yn cludo cyflenwadau bwyd hanfodol i'r sifiliaid Iseldiraidd newynog.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.