Cerdyn post oddi wrth Gilbert Baiton at ei wraig, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny02909
Disgrifiad
Cerdyn post a anfonodd Gilbert Baiton at ei wraig, mam Elizabeth. Mae bylchau ar y cerdyn i roi lluniau o'r anfonydd a'r derbynnydd. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.