Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Cerdyn Nadolig a anfonodd Gilbert Baiton o'r Eidal, 1944
Cyfeirnod yr eitem : cny02910

Disgrifiad

Cerdyn Nadolig a anfonodd Gilbert Baiton at ei deulu. Mae Gilbert a'i gyfeillion wedi sillafu 'Happy Xmas' gyda'u golch. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.