Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Cerdyn Nadolig Airgraph, a anfonwyd gan Gilbert Baiton, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny02913

Disgrifiad

Cerdyn Nadolig Airgraph wedi ei ddylunio ar gyfer milwyr yn yr Eidal, Sicily, Tunisia, Libya a'r Aifft, a anfonodd Gilbert Baiton at ei deulu. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.