Cerdyn Nadolig Airgraph, a anfonwyd gan Gilbert Baiton, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny02913
Disgrifiad
Cerdyn Nadolig Airgraph wedi ei ddylunio ar gyfer milwyr yn yr Eidal, Sicily, Tunisia, Libya a'r Aifft, a anfonodd Gilbert Baiton at ei deulu. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.