Lori nwyddau wedi chwythu drosodd gan ffrwydryn, Yr Eidal, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny02923
Disgrifiad
Tynnodd Gilbert luniau mintai gonfoi o lorïau nwyddau a oedd wedi rhedeg dros ffrwydryn - gellir gweld ei gysgod wrth iddo dynnu'r llun. Glaniodd y lori hon ar ei tho, ond ni niweidiwyd unrhyw un yn ddifrifol. Siaradodd Gilbert gyda gyrwr y lori yn y llun a darganfyddodd ei fod yn dod o Abertawe. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.