Er gwaethaf llymder y rhyfel, roedd milwyr y Cynghreiriaid yn awyddus i drefnu adloniant. Dyma raglen cynhyrchiad o 'Murder Scream' gan Alfred Summers, a lwyfanwyd gan Orsaf Maes Gwisgo Anafiadau Symudol Rhif2 tra oeddent yn Genoa, Yr Eidal. Ganed Elizabeth Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra oedd ei thad ymaith gyda'r fyddin. Gwasanaethodd ei thad, Gilbert Baiton, gyda'r Peirianwyr Brenhinol, ynghlwm wrth gorfflu meddygol. Teithiodd ar draws Ewrop, ac anfonodd nifer o gardiau post, a daeth yn ôl gyda llawer o ffotograffau a chofroddion. Cymerodd ran yn y cyrch ar Anzio, a'i brif gyfrifoldeb oedd sefydlu a chynnal y systemau goleuo mewn ysbytai maes ac unedau trin clwyfau symudol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.