Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Ffotograff o ddosbarth ysgol Gerdien Versteeg, 6ed Rhagfyr, 1945
Cyfeirnod yr eitem : cny02949

Disgrifiad

Gwelir y plant yma gyda 'Sinterklaas' (Santa Klaus) a'i gynorthwywr Black Peter. Gerdien yw'r trydydd ar y chwith yn y rhes flaen. Yng ngwanwyn 1945 roedd Gerdien Versteeg a'i theulu, ynghyd â miliynau o sifiliaid Iseldiraidd eraill, ar fin llwgu. Ar ôl gaeaf caled a phedair blynedd dan oresgyniad yr Almaenwyr, doedd dim bwyd na thanwydd ar ôl; roedd llawer wedi dechrau bwyta bylbiau tiwlipau. Yn Ebrill a Mai 1945, dechreuodd Ymgyrch Manna ollwng miloedd o dunelli o fwyd i'r Iseldirwyr newynog. Roedd awyrennau'r Cynghreiriaid, a fu ar un adeg yn cludo bomiau uwchben t~ Gerdien, yn awr yn gollwng pecynnau bwyd fyddai'n achub bywydau.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.