Ffotograff o Gerdien a'i brodyr, Jaap a Peter, wedi eu gwisgo fel corachod yn ystod pen-blwydd Ymgyrch Manna Cyfeirnod yr eitem : cny02950
Disgrifiad
Llun o Gerdien a'i brodyr wedi eu gwisgo fel corachod yn dathlu pen-blwydd Ymgyrch Manna. Mae'r faner yn dweud, 'Thank you for your help'. Mae pobl yr Hâg wedi parhau i roi diolch yn flynyddol am gael arbed eu heinioes rhag newyn, a phob blwyddyn maent wedi gwahodd peilotiaid a gymerodd ran yn y cennad cymorth. Yng ngwanwyn 1945 roedd Gerdien Versteeg a'i theulu, ynghyd â miliynau o sifiliaid Iseldiraidd eraill, ar fin llwgu. Ar ôl gaeaf caled a phedair blynedd dan oresgyniad yr Almaenwyr, doedd dim bwyd na thanwydd ar ôl; roedd llawer wedi dechrau bwyta bylbiau tiwlipau. Yn Ebrill a Mai 1945, dechreuodd Ymgyrch Manna ollwng miloedd o dunelli o fwyd i'r Iseldirwyr newynog. Roedd awyrennau'r Cynghreiriaid, a fu ar un adeg yn cludo bomiau uwchben t~ Gerdien, yn awr yn gollwng pecynnau bwyd fyddai'n achub bywydau.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.