Cerdyn a wnaed gan fam Gerdien i gyhoedd genedigaeth ei merch fach, Marleentje. Gerdien a'i brodyr a'i chwiorydd yw'r plant yn y llun; gwelir bod un ohonynt yn curo drwm. Roedd y drwm hwn wedi ei wneud o dun mawr a ollyngwyd gan Ymgyrch Manna gyda bisgedi ynddo. Mae Gerdien yn cofio eu bod yn galed iawn, ac roedd hi a'i brodyr a'i chwiorydd yn eu galw'n 'fisgedi llong'. Yng ngwanwyn 1945 roedd Gerdien Versteeg a'i theulu, ynghyd â miliynau o sifiliaid Iseldiraidd eraill, ar fin llwgu. Ar ôl gaeaf caled a phedair blynedd dan oresgyniad yr Almaenwyr, doedd dim bwyd na thanwydd ar ôl; roedd llawer wedi dechrau bwyta bylbiau tiwlipau. Yn Ebrill a Mai 1945, dechreuodd Ymgyrch Manna ollwng miloedd o dunelli o fwyd i'r Iseldirwyr newynog. Roedd awyrennau'r Cynghreiriaid, a fu ar un adeg yn cludo bomiau uwchben t~ Gerdien, yn awr yn gollwng pecynnau bwyd fyddai'n achub bywydau.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.