Tystysgrif Haeddiant Ysgol Sul y Capel a wobrwywyd i Dorothy Kneebone (nee Jenkins), 7 Mawrth 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny02966
Disgrifiad
Tystysgrif a wobrwywyd i Dorothy am iddi basio arholiad yn yr Ysgol Sul. Mae Dorothy Kneebone yn cofio bod ar wyliau yn Llandrindod y flwyddyn dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, dechreuwyd nifer o fentrau i hybu heddwch a chyfeillgarwch rhwng pobl ifanc gwahanol wledydd yn y gobaith y byddai cynghreiriau cryfach yn y dyfodol yn helpu i rwystro rhyfel arall o'r fath. Roedd Dorothy ynghlwm wrth sawl menter o'r fath, ac fe'i dewiswyd i gynrychioli ei hysgol yn fforwm 'The World We Want', lle cefnogwyd plant o bob cefndir i drafod eu gobeithion a'u gweledigaethau ar gyfer y dyfodol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.