Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llythyr i Dorothy Kneebone oddi wrth y World Friendship Association, 10 Gorffennaf 1947
Cyfeirnod yr eitem : cny02967

Disgrifiad

Mae Dorothy Kneebone yn cofio bod ar wyliau yn Llandrindod y flwyddyn dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, dechreuwyd nifer o fentrau i hybu heddwch a chyfeillgarwch rhwng pobl ifanc gwahanol wledydd yn y gobaith y byddai cynghreiriau cryfach yn y dyfodol yn helpu i rwystro rhyfel arall o'r fath. Roedd Dorothy ynghlwm wrth sawl menter o'r fath, ac fe'i dewiswyd i gynrychioli ei hysgol yn fforwm 'The World We Want', lle cefnogwyd plant o bob cefndir i drafod eu gobeithion a'u gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Roedd Dorothy hefyd yn barod i deithio i Ewrop gyda'r 'World Friendship Association', menter a sefydlwyd i drefnu teithiau cyfnewid rhwng plant ysgol Ewrop. Roedd ei rhieni wedi cyfrannu'n ariannol at y daith, ond cafodd ei ganslo ar y funud olaf wrth i'r sefydliad fynd i'r wal. Daeth o hyd i gyfeilles ohebol drwy'r fenter, Alij de Groot-Vijborg, o'r Iseldiroedd. Maent yn ysgrifennu at ei gilydd o hyd, ac wedi cyfarfod sawl gwaith.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.