Tystysgrif Haeddiant Sioe Ardd Cronfa Amaeth y Groes Goch, 30 Gorffennaf 1941 Cyfeirnod yr eitem : cny02979
Disgrifiad
Gwobrwywyd i Mr. Florida ar 30 Gorffennaf 1941. I baratoi ar gyfer prinderau, ac er mwyn gallu defnyddio llongau masnach ar gyfer deunyddiau rhyfel angenrheidiol, o 1939 roedd disgwyl i bawb oedd yn berchen ar ardd o unrhyw fath i balu eu gwelyau blodau a phlannu llysiau i fwydo'u teuluoedd yn lle. Erbyn 1943, roedd dros filiwn o dunelli o lysiau'n cael eu tyfu mewn gerddi a rhandiroedd ledled y DU. Roedd ymgyrch y Weinyddiaeth Amaeth 'Dig For Victory', yn cael cefnogaeth gyda phosteri, ryseitiau a sioeau llysiau, lle cydnabyddwyd ymdrech gwladgarol a sgiliau garddio gyda'i gilydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Mr. Florida'n gweithio yn Ffatri Danwydd y Llynges yng Ngaer-went, ac felly ni allai ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd eisoes wedi gweithio i ICI ac roedd ganddo brofiad ym maes cynhyrchu cemegau diwydiannol, a dyfarnwyd ei swydd yn 'waith neilltuedig', a'i gyfraniad gartref yn cynhyrchu ffrwydron yn angenrheidiol i hybu ymdrech y rhyfel. Roedd y ffatri'n cynhyrchu Cordite, tanwydd di-fwg a ddefnyddid mewn arfau.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.