Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Rhaglen Cyngerdd Fawreddog Agoriadol yng Nghanolfan Nawdd Cymdeithasol Caer-went, ar 5, 11 a 12 Ebrill 1944
Cyfeirnod yr eitem : cny02983

Disgrifiad

Rhaglen Cyngerdd Fawreddog i ddathlu agoriad Canolfan Nawdd Cymdeithasol Caer-went ym 1944. Trefnwyd y gyngerdd gan Bwyllgor Adloniant Dinham, sef aelodau staff Ffatri Danwydd y Llynges, Caer-went. Galwyd y ffatri 'the Dinham works' yn lleol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Mr. Florida'n gweithio yn Ffatri Danwydd y Llynges yng Ngaer-went, ac felly ni allai ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd eisoes wedi gweithio i ICI ac roedd ganddo brofiad ym maes cynhyrchu cemegau diwydiannol, a dyfarnwyd ei swydd yn 'waith neilltuedig', a'i gyfraniad gartref yn cynhyrchu ffrwydron yn angenrheidiol i hybu ymdrech y rhyfel. Roedd y ffatri'n cynhyrchu Cordite, tanwydd di-fwg a ddefnyddid mewn arfau.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.