Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Dr. Knight, cyfarwyddydd RNPF Caer-went, wedi ei wisgo fel Siôn Corn, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny02984

Disgrifiad

Dr. Knight, cyfarwyddydd RNPF Caer-went, wedi ei wisgo fel Siôn Corn mewn parti Nadolig ar gyfer staff a'u teuluoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan y ffatri bwyllgor adloniant gweithgar iawn a drefnodd llawer o sioeau a phartïon i galonogi a meithrin ysbryd cymdogol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Mr. Florida'n gweithio yn Ffatri Danwydd y Llynges yng Ngaer-went, ac felly ni allai ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd eisoes wedi gweithio i ICI ac roedd ganddo brofiad ym maes cynhyrchu cemegau diwydiannol, a dyfarnwyd ei swydd yn 'waith neilltuedig', a'i gyfraniad gartref yn cynhyrchu ffrwydron yn angenrheidiol i hybu ymdrech y rhyfel. Roedd y ffatri'n cynhyrchu Cordite, tanwydd di-fwg a ddefnyddid mewn arfau.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.