Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Good Housekeeping's 250 Household Hints', 1940au, clawr blaen, [delwedd 1 o 4]
Cyfeirnod yr eitem : cny02994

Items in this series [translate]:

Good Housekeeping's 250 Household Hints', 1940au, y tu mewn i'r clawr blaen, [delwedd 2 o 4]
Good Housekeeping's 250 Household Hints', 1940au, tudalennau 6 a 7, [delwedd 3 o 4]
Good Housekeeping's 250 Household Hints', 1940au, tudalennau 10 a 11, [delwedd 4 o 4]

Disgrifiad

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gweithgareddau'r gelyn yn effeithio'n ddifrifol ar gyflenwadau deunyddiau a nwyddau eraill a oedd yn dod i Brydain ar y môr, ac hefyd roedd ffatrïoedd a oedd yn arfer cynhyrchu nwyddau eraill yn troi i gynhyrchu arfau. Cyflwynwyd dogni er mwyn sicrhau fod beth bynnag oedd ar gael yn cael ei rannu'n deg rhwng y cyhoedd. Hyrwyddwyd yr ymgyrch ailgylchu 'Make Do And Mend' gan y Bwrdd Masnach fel ffordd o annog dinasyddion i ailddefnyddio a thrwsio pethau yn hytrach na phrynu eitemau newydd. Cyhoeddwyd y llyfr hwn gan Good Housekeeping, yn ôl tywyslinellau'r Bwrdd Masnach. Roedd mam Sandra'n weithgar iawn gyda'r mudiad dirwest, a'r teulu cyfan yn wleidyddol. Gweithiodd ei thadcu fel asiant George Thomas, Arglwydd Tonypandy, a James Callaghan, a ddaeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach, a gafodd ei ddewis yn Ymgeisydd Seneddol De Caerdydd ym 1943. Arhosodd Callaghan yn nh~ Sandra am gyfnod, a defnyddiodd feic ei thad i fynd allan i ganfasio. Ond ni wnaeth dalu am letya yno, er gofyn iddo'n aml, ac yn y pendraw gofynnwyd iddo adael!

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.