Ffotograff o Gofadail Rhyfel Rhyddid yn Eemnes, Yr Iseldiroedd, c. 1990au Cyfeirnod yr eitem : cny03037
Disgrifiad
Codwyd Cofadail Rhyfel Rhyddid ym mhentref Eemnes, canol yr Iseldiroedd, er cof am y rhai fu farw yn y caeau o amgylch y pentref. Mae coflech sy'n dwyn enwau'r rhai a gollodd eu bywydau yn cynnwys enw Sarsiant Humphrey Watkin Hughes. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Humphrey fel Dyn Radio gyda'r Llu Awyr. Trist dweud, ar noson 20 Chwefror, 1944, cwympodd yr awyren yr oedd arni ac ni ddaethant byth o hyd i'w gorff. Heddiw, gwelir ei enw ar lawer cofadail, gan gynnwys Cofadail Runnymede, sy'n rhestru pob un a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu gyda'r Llu Awyr yn ystod y rhyfel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.