Y Fedal Ryfel a roddwyd i Humphrey Watkin Hughes, c. 1946 [delwedd 1 o 2] Cyfeirnod yr eitem : cny03047
Disgrifiad
Rhoddwyd y Fedal Ryfel i bob milwr llawn amser Lluoedd yr Armed oedd wedi gwasanaethu am o leiaf 28 niwrnod. Roedd gofyn bod pob milwr o'r Llynges Fasnachol yn gwasanaethu am o leiaf 28 niwrnod ar y môr. Rhoddwyd y fedal hon i'r derbyniwr hefyd os deuai ei gyfnod o wasanaeth i ben trwy farwolaeth, anabledd o ganlyniad i wasanaeth neu gaethiwed fel carcharor rhyfel. Yn yr achos diwethaf, buasent, hefyd, yn gymwys i dderbyn un o'r sêr ac os oedd rhywun yn derbyn seren am wasanaeth oedd yn para llai nag 28 niwrnod, buasent, hefyd, yn cael eu gwobrwyo â'r Fedal Ryfel. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Humphrey fel Dyn Radio gyda'r Llu Awyr. Trist dweud, ar noson 20 Chwefror, 1944, cwympodd yr awyren yr oedd arni ac ni ddaethant byth o hyd i'w gorff. Heddiw, gwelir ei enw ar lawer cofadail, gan gynnwys Cofadail Runnymede, sy'n rhestru pob un a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu gyda'r Llu Awyr yn ystod y rhyfel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.