Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Y Fedal Amddiffyniad, a wobrwywyd i Humphrey Watkin Hughes, c. 1946
Cyfeirnod yr eitem : cny03049

Disgrifiad

Mae'r fedal yn dangos y goron frenhinol yn gorffwys ar goeden dderwen fechan gyda llew ar bob ochr iddi. Mae'n dwyn y geiriau 'The Defence Medal' oddi tanynt ac mae'r dyddiadau '1939' a '1945' yn ymddangos ar y top chwith a'r top de. Ar y tu ôl gwelir pen digoron Brenin Siôr VI. Rhoddwyd y fedal hon i'r rhai a wasanaethodd ym Mhrydain rhwng Medi 1939 a Mai 1945. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Humphrey fel Dyn Radio gyda'r Llu Awyr. Trist dweud, ar noson 20fed Chwefror, 1944, cwympodd yr awyren yr oedd arni ac ni ddaethant byth o hyd i'w gorff. Heddiw, gwelir ei enw ar lawer cofadail, gan gynnwys Cofadail Runnymede, sy'n rhestru pob un a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu gyda'r Llu Awyr yn ystod y rhyfel.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.