Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





'Order for Release from Naval Service (Class A) (Men) yn perthyn i William John Lewis, Ebrill 1946
Cyfeirnod yr eitem : cny03050

Disgrifiad

Dogfen a ddosbarthwyd gan y Morluoedd i roi caniatâd i William John Lewis o'r lluoedd arfog. Ar ôl dyddiad ei ryddhad roedd William i wisgo dillad sifilaidd a rhoi'r gorau i wisgo ei unffurf wisg y Llynges Frenhinol. Ar ôl dyddiad y caniatâd yr oedd hefyd yn rhydd i ymgymryd â gwaith sifil. Roedd William John Lewis yn byw yn Ninorwig, Gogledd Cymru, pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Ym Medi 1942, yn 19 mlwydd oed, cafodd orchymyn milwrol i ymuno â'r Llynges Frenhinol. Cafodd ei hyfforddi yn Plymouth ac yn Chatham, Caint ac un o'i ddyletswyddau oedd bod yn gyfrifol am hebrwng gosgordd lyngesau Gogledd yr Iwerydd. Arhosodd yn y lluoedd arfog tan Ebrill 1946.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.