Tystysgrif a anfonwyd gan Frenin Siôr VI at William John Lewis i ddiolch iddo am ei wroldeb ac i ddathlu buddugoliaeth, 1946 Cyfeirnod yr eitem : cny03060
Disgrifiad
Gyda'r dystysgrif hon mae'r Brenin Siôr VI yn cydnabod cyfraniad William John Lewis ac yn diolch iddo am yr amser a roddodd yn gwasanaethu gyda'r Llynges Frenhinol, o Fedi 1942 hyd 1946. Roedd William John Lewis yn byw yn Ninorwig, Gogledd Cymru, pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Ym Medi 1942, yn 19 mlwydd oed, cafodd orchymyn milwrol i ymuno â'r Llynges Frenhinol. Cafodd ei hyfforddi yn Plymouth ac yn Chatham, Caint ac un o'i ddyletswyddau oedd bod yn gyfrifol am hebrwng gosgordd lyngesau Gogledd yr Iwerydd. Arhosodd yn y lluoedd arfog tan Ebrill 1946.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.