Cyn i'r rhyfel dorri allan roedd William yn gweithio yn Chwarel Dinorwig fel nadwr llechi a hwn oedd ei gerdyn adnabyddiaeth gweithiwr. Roedd William John Lewis yn byw yn Ninorwig, Gogledd Cymru, pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Ym Medi 1942, yn 19 mlwydd oed, cafodd orchymyn milwrol i ymuno â'r Llynges Frenhinol. Cafodd ei hyfforddi yn Plymouth ac yn Chatham, Caint ac un o'i ddyletswyddau oedd bod yn gyfrifol am hebrwng gosgordd lyngesau Gogledd yr Iwerydd. Arhosodd yn y lluoedd arfog tan Ebrill 1946.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.