Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Ffotograff yn dangos aelodau o'r criw ar fwrdd yr HMS Pioneer mewn gwisg ffansi, 1946
Cyfeirnod yr eitem : cny03082

Disgrifiad

Mae'r ffotograff yn dangos aelodau o griw'r HMS Pioneer wedi gwisgo i fyny mewn gwisg i gymryd rhan mewn defod o drochi aelod o'r criw yn y môr ar ôl i'r criw groesi'r cyhydedd. Ychydig o ddiddanwch ysgafn oedd hyn i godi calon y milwyr. Roedd William John Lewis yn byw yn Ninorwig, Gogledd Cymru, pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Ym Medi 1942, yn 19 mlwydd oed, cafodd orchymyn milwrol i ymuno â'r Llynges Frenhinol. Cafodd ei hyfforddi yn Plymouth ac yn Chatham, Caint ac un o'i ddyletswyddau oedd bod yn gyfrifol am hebrwng gosgordd lyngesau Gogledd yr Iwerydd. Arhosodd yn y lluoedd arfog tan Ebrill 1946.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.