Cerdyn post a anfonwyd o wersyll carcharorion rhyfel gan Gordon Postlethwaite at ei rieni, 14 Rhagfyr 1944, tudalen 1 [delwedd 1 o 2] Cyfeirnod yr eitem : cny03198
Cerdyn post a anfonwyd o wersyll carcharorion rhyfel gan Gordon Postlethwaite at ei rieni i adael iddynt wybod ei fod wedi derbyn pecyn gan y Groes Goch, 14 Rhagfyr, 1944. Ymunodd Gordon Postlethwaite o Fanceinion â'r Llu Awyr Brenhinol ar 9 Gorffennaf 1941 yn 18 oed. Bu'n llwyddiannus yn ei hyfforddiant fel peilot yn Alabama, UDA a dychwelodd i Ewrop ble hedfanodd ar nifer o berwylion. Cwympodd yr awyren a chymrwyd ef yn garcharor ym 1944 ac anfonwyd ef i wersyll yng Ngwlad Pwyl, ble arhosodd tan ddiwedd y rhyfel, pan ryddhawyd y gwersyll.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.