Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Marjorie Protheroe Jarrett, mewn gwisg GTC, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny03338

Disgrifiad

Ymunodd Marjorie Protheroe Jarrett â'r GTC ar 21 Mawrth, 1940. Nid oedd ond 16 oed, dwy flynedd dan derfyn isaf oedran, ffaith a ddaeth i'r amlwg pan oedd yn 73, pan aeth i ymweld â'r meddyg. Roeddynt yn meddwl ei bod 2 flynedd yn h~n nag yr oedd mewn gwirionedd, gan na newidwyd ei manylion swyddogol. Roedd Marjorie wedi ei lleoli yn Aberhonddu pan gyfarfu â'i darpar |r. Teithiasant i Gastell-nedd i gyhoeddi'r gostegion ar nos Wener - daeth y cofrestrydd i orsaf Castell-nedd i'w cyfarfod ar gefn ei feic, a bu raid iddynt lenwi'r gostegion yng ngolau lamp beic! Priodasant y diwrnod canlynol a theithiasant yn ôl i Aberhonddu, ble roedd yn rhaid iddynt aros mewn gwahanol lety. Gadawodd y GTC ym 1945, pan oedd yn disgwyl ei merch, a chafodd ei g|r ei ryddhau o'r fyddin ym 1946, wythnos cyn iddi gael ei geni.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.