Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Gohebiaeth Carcharorion Rhyfel Prydeinig Swyddogol, i'w ddefnyddio gan filwyr Prydeinig oedd yn nwylo'r Almaenwyr, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny03380

Disgrifiad

Ymunodd Doris Craig â'r GTC yn Rhagfyr 1940. Cafodd ei hanfon i Bournemouth gyntaf, ble dechreuodd gyda gwaith clercio, ond aeth ymlaen i osod pethau ynghyd mewn 'cesys dillad' ar gyfer y Gwrthsafiad Ffrengig, a gynhwysai drosglwyddyddion a derbynyddion radio, pecynnau p|er a darnau sbâr. Cyfarfu â Barnes-Wallis, ac ysgydwodd ei law. Cafodd ei g|r, Frank Craig, ei ddal yn Dunquerque, a threuliodd dair blynedd mewn gwersylloedd Carcharorion Rhyfel, a gychwynnodd fel y Stalag VIII B bondigrybwyll, ble bu bron iddo lwgu. Ym 1943 fe'i anfonwyd yn ôl i'w wlad ei hun oherwydd ei iechyd, gan ei fod yn dioddef gan y fogfa, ac fe'i anfonwyd i Croydon i ailhyfforddi fel technegydd trydanol. Yno y cyfarfu â Doris, a phriodasant ar ddiwrnod Nadolig 1944.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.