Llun o Graham Simmons y tu allan i Tobruk, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny03430
Disgrifiad
Roedd Graham Simmons yn gweithio fel cigydd pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Roedd yn waith neilltuedig a doedd dim gorfodaeth ar Graham i ymuno. Gwirfoddolodd fel warden ARP, a gwasanaethodd yn y cymhwysedd hwnnw yn ystod y tair noson o fomio yn Abertawe ym 1941, ble collodd ei ffrind gorau goes o ganlyniad i lechi to oedd yn hedfan o gwmpas. Wedi ei gythruddo gan y bomio, ymunodd Graham â'r Morlu Brenhinol, ac, yn y diwedd, aeth i ymladd y Tobruk yng Ngogledd Affrica, cyn mynd i Sri Lanka a Burma.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.