Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llythyr o werthfawrogiad a anfonwyd at Reg Pike oddi wrth y Rheolwr Ffonau, Ardal Abertawe, 28 Ebrill 1941
Cyfeirnod yr eitem : cny03467

Disgrifiad

Roedd Reg Price yn brentis peirianyddol Swyddfa Bost yn Abertawe pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Dywedwyd wrtho am ymuno â'r Lluoedd Awyr Brenhinol ac fe'i anfonwyd i orsaf awyr Pembrey. Roedd yr holl offer cyfathrebu yno yn perthyn i'r Swyddfa Bost ac felly gallai Reg ei weithio heb hyfforddiant pellach. Roedd yn rhaid iddo gysgu yn yr un ystafell fach ag y gweithiai ynddi, gyda'r offer o'i gwmpas. Roedd drws yn arwain o'r ystafell honno i ystafell orffwys Lluoedd Awyr Cynorthwyol y Merched a rhoddodd Prif Swyddog Reg forthwyl a hoelen 6 modfedd iddo a dweud wrtho am hoelio'r drws ar gau. Gwirfoddolodd Reg i wneud dyletswyddau hedfan, ond datganwyd ei fod yn 'C3' oherwydd namau bychain ar y golwg a'r clyw. Fe'i dad-neilltuwyd ym 1942 a chafodd ei alw i'r fyddin ble datganwyd ei fod yn 'A1'. Pan brotestiodd, dywedwyd wrtho, 'You're in the army now'. Ymrestrwyd Reg gyda'r 'Royal Signals' a threuliodd amser yn yr Almaen yn tapio llinellau ffôn i godi negeseuon.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.