Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llun o Sylvia Oats mewn gwisg ATS ar ôl ymuno, 1943
Cyfeirnod yr eitem : cny03513

Disgrifiad

Ymunodd Sylvia Oats gyda'r GTC ym 1943 ac aeth i Wrecsam i gwblhau ei hyfforddiant. Yna fe'i hanfonwyd i Brestatyn, ble roedd y fyddin wedi meddiannu gwersyll gwyliau fel safle hyfforddi. Roedd Sylvia yn gweithio fel cogyddes ac roedd yn falch iawn o ddarganfod fod ganddi gaban iddi hi ei hun. Yn ddiweddarach anfonwyd Sylvia i Longmoor ger Petersfield, ble coginiai yn ystafell fwyta swyddogion y merched, ac, yn y diwedd, i safle Heddlu Milwrol yn Ashvale ger Farnborough. Roedd wedi llwyr fwynhau y rhyddid o fod oddi cartref ac nid oedd eisiau dychwelyd i Abertawe pan gafodd ei rhyddhau o'r fyddin ym 1945.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.