Llenwodd Fred Hughes y cerdyn post maes ar 30 Rhagfyr 1941. Caniatawyd iddo ysgrifennu'r cyfeiriad, arwyddo a dyddio'r cerdyn post. Nid oedd dim arall i gael ei ysgrifennu ond roedd yn rhaid dileu brawddegau diangen. 'Os ychwanegir unrhyw beth arall caiff y cerdyn post ei ddinistrio'. Gwasanaethodd Fred Hughes o Ddinbych gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Pan oedd tramor cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cynghreiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.