Cerdyn post Gwersyll Carcharorion Rhyfel yr Eidal a anfonwyd gan Fred Hughes at ei dad ac Edith, tua 1943, blaen [delwedd 1 o 2] Cyfeirnod yr eitem : cny03535
Ysgrifennodd Fred Hughes y cerdyn post hwn at ei dad a'i chwaer wedi iddo gael ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Mae Fred yn gofyn i'w chwaer anfon pâr o esgidiau ato ac iddynt ysgrifennu mor aml â phosibl. Mae hefyd yn dweud wrthynt i ofalu am eu hunain ac i beidio â phryderu. Gwasanaethodd Fred Hughes o Ddinbych gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Pan oedd tramor cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cyngrheiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.