Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llythyr Carcharorion Rhyfel a anfonwyd gan Fred Hughes at ei chwaer Edith a'r teulu, 19 Hydref 1943, blaen [delwedd 1 o 2]
Cyfeirnod yr eitem : cny03537

Items in this series [translate]:

Llythyr Carcharorion Rhyfel a anfonwyd gan Fred Hughes at ei chwaer Edith, 19 Hydref 1943, cefn [delwedd 2 o 2]

Disgrifiad

Llythyr a ysgrifennwyd gan Fred Hughes tra oedd yn garcharor rhyfel yn Stalag VIII, Lamsdorf. Yn y llythyr mae Fred yn dweud nad yw wedi derbyn llythyrau oddi wrth ei gyfeillion na'i deulu am gyfnod hir ac mae'n gofyn am newyddion am ei frawd Charles. Gwasanaethodd Fred Hughes o Ddinbych gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Pan oedd tramor cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cyngrheiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.