Cerdyn postoddi wrth Fred Hughes at ei rieni yn dweud ei fod wedi'i garcharu, 4 Gorffennaf 1942 Cyfeirnod yr eitem : cny03565
Disgrifiad
Anfonwyd y cerdyn post gan Fred Hughes o Ddinbych i hysbysu'i rieni ei fod yn garcharor rhyfel yr Eidalwyr. Caniatawyd iddo arwyddo a dyddio'r cerdyn post. Ni chaniatawyd iddo ysgrifennu unrhyw beth arall, ond cai ddileu brawddegau diangen. Gwasanaethodd Fred Hughes o Ddinbych gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith, tra oedd tramor. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cyngrheiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.